Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mehefin 2020
Amser:
12.34 -
13.48
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Alun Davidson, Clerc i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood, Dirprwy Glerc Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Jessica England, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cwestiynau Llafar
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y caiff yr holl gwestiynau atodol eu cyfyngu i un funud. Bydd Arweinwyr / Llefarwyr yn cael tri chwestiwn (Ceidwadwyr a Phlaid Cymru) neu ddau gwestiwn (Plaid Brexit) fel o'r blaen, ond caiff pob cwestiwn hefyd ei gyfyngu i un funud.
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y caiff cyfraniadau aelodau eu cyfyngu i un funud a'r disgwyliad yw y bydd y Gweinidog hefyd yn cadw ei hymatebion yn gryno.
Egwyl
Cytunodd y Trefnydd i symud y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes i fod ar ôl y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, a chytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r egwyl ddod wedyn, ar ôl y cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig, am tua 13:00.
Trefn dadleuon
Gofynnodd Caroline Jones i ddadl Plaid Brexit gael ei hamserlennu cyn dadl y Blaid Geidwadol ar agenda dydd Mercher: Cytunodd y Rheolwyr Busnes.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at amserlen fusnes dair wythnos ddiwygiedig y llywodraeth a ddosbarthwyd fore heddiw.
Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2020
· Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (60 munud)
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (60 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (30 Munud)
· Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) (60 munud)
Awgrymodd Darren Millar y gallai datganiadau Gweinidogol gael eu hadfer ar gyfer cyhoeddiadau newid ôl-reoleiddio. Cytunodd y Trefnydd i gyflwyno'r awgrym hwn i gyd-Weinidogion.
Gofynnodd y Trefnydd a fyddai'n bosibl symud y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau i'r Prif Weinidog ymlaen, gan ei fod ar hyn o bryd yn disgyn ar ddiwedd y dydd ddydd Gwener (4pm). Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddod â'r terfyn amser ar gyfer y cymysgiad ymlaen o 15.30 a 10.00.
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2020:
· Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 munud)
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020:
· Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22, yng ngoleuni Covid 19 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Pwyllgorau
4.1 Sefydlu ac aelodaeth arfaethedig Pwyllgor y Llywydd
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ynghylch aelodaeth Pwyllgor y Llywydd a dychwelyd at y mater yn eu cyfarfod yr wythnos nesaf.
Nodwyd hefyd yr amserlen arfaethedig ar gyfer sefydlu Pwyllgor y Llywydd, fel y nodir yn Atodiad 2 y papur.
4.2 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar effeithiau COVID-19 ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru ar gyfer dydd Mercher 1 Gorffennaf 2020.
5 Y Cyfarfod Llawn
5.1 Dyddiadau Toriadau a Chyfarfodydd Llawn Hybrid
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid galw'r Senedd yn ôl ddwywaith ym mis Awst o dan Reol Sefydlog 34.9 i ystyried canlyniad yr adolygiadau tair wythnos o reoliadau Coronafeirws. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ddydd Mercher 5 a dydd Mercher 26 Awst.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cynnig i gynnal cyfarfodydd llawn hybrid ar 8 a 15 Gorffennaf, a chytunwyd mewn egwyddor ar y cynnig. Cadarnhaodd y Llywydd y byddai'n mynd i'r Siambr ddydd Gwener i brofi'r dechnoleg a'r trefniadau ymarferol, ac y byddai'n adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
6 Unrhyw Fater Arall
Gofynnodd y Trefnydd am gadarnhad y bydd y cyfyngiad ar nifer y cwestiynau ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf yn aros yr un fath ag ar gyfer toriadau blaenorol (pum cwestiwn yr Aelod yr wythnos). Cadarnhaodd y Llywydd hyn.
Adolygu Rheolau Sefydlog
Gofynnodd y Trefnydd i'r adolygiadau arfaethedig o agweddau ar y Rheolau Sefydlog ar gyfer y chweched Senedd barhau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r gwaith hwn barhau yn nhymor yr hydref.